Ci del, tlws
Gair y dydd: DEL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Mae’n rhyfedd fel mae geiriau’n gallu newid eu hystyr yn llwyr dros amser.
Hen ystyr DEL oedd ‘blin, garw, styfnig’. Ond ei ystyr i ni heddiw yw ‘hardd, tlws’.
Ci del, tlws
Gair y dydd: DEL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Mae’n rhyfedd fel mae geiriau’n gallu newid eu hystyr yn llwyr dros amser.
Hen ystyr DEL oedd ‘blin, garw, styfnig’. Ond ei ystyr i ni heddiw yw ‘hardd, tlws’.
Basged ddillad gron o bren cyll wedi'i blethu, a wnaed gan Childs Hughes, Llanrhaeadr, Sir Ddinbych c. 1950.
Gair y Dydd: gwyntell geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., neu wyntell/gwintell/wintell. Basged gron heb ddolen iddi, wedi ei phlethu o wiail cyll neu helyg, ac a ddefnyddir yn arbennig i ddal tatws, dillad, &c. Caiff basgedi o'r fath eu hadnabod hefyd fel basgedi lip, cintell, cyntell a chantell.
Studia Celtica 2025 has arrived! - a substantial issue, produced jointly by the Ganolfan and @uniwalespress.bsky.social @collen105.bsky.social. Further information is given here: www.uwp.co.uk/journal/stud...
Mae Studia Celtica 2025 wedi cyrraedd - rhifyn swmpus, wedi ei gyd-gynhyrchu gan y Ganolfan a @gwasgprifcymru.bsky.social @collen105.bsky.social. Cewch fanylion pellach yma: www.gwasgprifysgolcymru.org/journal/stud...
🎆Job Klaxon!!🎆
Folúntais: Scoláireachtaí Uí Dhonnabháin @scs-dias.bsky.social @dias.ie. Spriocdháta 5 Eanáir 2026
2 O’Donovan Scholarship vacancies at the School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies. Deadline 5 January 2026:
www.dias.ie/2025/12/05/v...
Mae'n amlwg nad Cymro a enwodd Storm BRAM, a fydd yn ein cyrraedd ni heddiw!
Llinellau cerddi Beirdd y Tywysogion yn nhrefn yr wyddor / lines from the poems of the Poets of the Princes, in alphabetical order. @yganolfangeltaidd.bsky.social
www.geiriadura.cymru/post/beirdd-...
Tua diwedd Tachwedd 1606 cychwynnodd cyfnod rhewllyd eithriadol.
Yn ôl y cofnod hwn (ar y chwith) gan John Jones Gellilyfdy yn 1607, rhewodd afonydd Conwy, Dyfrdwy, Tafwys a Llyn Tegid; bu farw nifer o anifeiliaid a bu gostyngiad sylweddol yn niferoedd rhai adar, fel y fwyalchen a’r fronfraith.
Gair y dydd: DYFALBARHAD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef y dygnwch sydd yn ambell un i barhau neu i ddal ati gyda rhyw orchwyl, pan fo'r rhan fwyaf o'u cwmpas wedi rhoi'r gorau iddi.
Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar ôl i ni newid yr awr yn sgil troi’r clociau’n ôl nos Sadwrn, bydd hi’n NOSI yn gynt bob dydd nes cyrraedd diwrnod byrraf y flwyddyn, tua 21 Rhagfyr.
Un cysur fydd yr awr ychwanegol a gawn yn y gwely fore Sul nesaf!
Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Cysylltwch â cefnogi@geiriadur.ac.uk os hoffech fwy o wybodaeth #CyfeillionGPC
Gair y dydd: GORWEL, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800).
Englyn Dewi Emrys i'r gorwel:
Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod:
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.
Beth yw'ch gair chi am slefren fôr neu bysgodyn jeli? Cont fôr oedd gair Lewis Morris (1754) a cheir Cont goch gan Edward Lhuyd (1684). Ond yr enw hynaf sydd gennym yn Gymraeg yw BLOBYS gan John Jones Gellilyfdy (1632).
#GeirfaurFflyd @geiriadur.bsky.social
Braf ymweld â @scs-dias.bsky.social yn Nulyn ddoe, a chwrdd ag ambell un a fu yn yr Ysgol Haf yno yn 1984. Hawdd cofio'r flwyddyn gan ein bod i gyd yn cofio'r ddaeargryn, 5.4 ar raddfa Richter. Roedd ei chanolbwynt yn Llithfaen. cy.wikipedia.org/wiki/Daeargr...
Gair y dydd: pyngo ‘tyfu’n glystyrau, cynhyrchu’n doreithiog (am goed ffrwythau, &c.), bod yn drwmlwythog (â ffrwythau)’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ceir sawl amrywiad llafar ar y gair, e.e. pingo (Ceredigion a’r De), plyngad (Cwm Rhondda), plingo a byngad (Ceredigion).
Gwrandewch ar Catrin Huws, un o Olygyddion Cynorthwyol y Geiriadur, yn trafod rhai o'r geiriau 'newydd' sydd wedi'u cyhoeddi yn ddiweddar ar 'Dros Frecwast' ar BBC Radio Cymru y bore 'ma (www.bbc.co.uk/sounds/play/... gan ddechrau tua 55:40 munud drwy'r rhaglen).
⚠️ Seminar announcement: in semester 2 of the new academic year (Feb-May 2026), I will be teaching a
𝐒𝐞𝐦𝐢𝐧𝐚𝐫 𝐨𝐧 𝐀𝐧𝐜𝐢𝐞𝐧𝐭 𝐂𝐞𝐥𝐭𝐢𝐜 𝐋𝐚𝐧𝐠𝐮𝐚𝐠𝐞𝐬 (SG648)
in the Dept. of Early Irish (@ceilteachomn.bsky.social) at Maynooth University.
Guests from outside are very welcome.
More info ⬇️
@geiriadur.bsky.social @cambriansarch.bsky.social @yganolfangeltaidd.bsky.social
Gair y dydd: BRICYLL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... a fathwyd gan William Owen Pughe (1793) ar ôl teimlo bod diffyg gair Cymraeg amdano.
Bu'n fathiad llwyddiannus!
Cysylltwch os oes gennych chithau awgrym am eiriau newydd, ar ôl teimlo #dylaifodgairamhyn. Cawn eu trafod yn yr Eisteddfod!
Gair y dydd: rhuddygl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., llysieuyn poethlym ei flas a ddefnyddid gynt mewn meddyginiaethau.
Radish geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... yw’n gair arferol heddiw, ond enwau eraill gynt oedd rhaddig, rhodri, rhadicl – y cyfan yn perthyn i’r Lladin radix, radic- ‘gwreiddyn’
Cyfarchion o Ffrainc! @prosiectmyrddin.bsky.social
Gair y dydd: LETUS www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., ein gair arferol am ddail salad. Mwy cyffredin ers talwm oedd www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... GWYLAETH. Cyfeiria’r ddau enw at natur laethog y dail – LETUS yn tarddu yn y pen draw o’r Lladin lactūca ‘llaethog’ a llaeth yn ail elfen gwyLAETH
🚨 Celtica is now available open-access! This is the result of painstaking work going on behind the scenes since 2022. Issues 33 to 36 (2021–24) are now online, and future issues will appear online & in print. We will also digitize the back issues of the journal.
🔗 journals.dias.ie/index.php/ce...
CAA Eisteddfod Lecture 16.30 Wednesday 6th August, 2025 (by Ann Parry Owen). Join us for our annual Welsh-language lecture on the Maes at Wrexham on the fascinating word-lists created in 1632͏-3 by the manuscript copier John Jones of Gellilyfdy, Flintshire.
Darlith Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru yn yr Eisteddfod (gan Ann Parry Owen) 16.30 Mercher 6ed Awst, 2025 yn Wrecsam – ymunwch â ni am ddarlith ddifyr ar y rhestrau geiriau rhyfeddol a luniodd y copïwr llawysgrifau John Jones, Gellilifdy, Sir y Fflint.
Diolch i’r Athro Ann Parry Owen am ddarlith O’Donnell arbennig iawn wythnos ddiwethaf. Gallwch wylio recordiad ar ein sianel YouTube @collen105.bsky.social @geiriadur.bsky.social
youtu.be/cN8j9KZS-Dc
🎙️ Episode 1 of Ní hansae is out now!! Listen on Apple Podcasts, Spotify or your browser (www.dias.ie/series/ni-ha...), or watch on YouTube (youtu.be/HlHNUIfo8Co) 🎧
➡️ Prof. Ruairí Ó hUiginn tells us all about the School of Celtic Studies @dias.ie! He also announces some pretty cool news 👀
Gair y dydd: GEIRIADUR www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... gair sy'n digwydd am y tro cyntaf yng ngeiriadur anferth Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems o Drefriw (1604-7) ac a fathwyd ganddo ef. Treuliodd ei oes gwaith yn copïo hen destunau o lawysgrifau gan gasglu tystiolaeth ar gyfer ei eiriadur
Job alert: 10-month position as Lecturer/Assistant Professor in the Maynooth School of Celtic Studies!
Please note: The closing date for applications is 𝟏𝟖 𝐉𝐮𝐧𝐞; I will have the error on the website corrected ASAP.
Bydd Ann Parry Owen (un o Olygyddion Hŷn GPC) yn trafod ei gwaith yn trawsgrifio geiriadur Thomas Wiliems (1604-7) ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru nos yfory am 18:00 (neu gallwch wrando nawr ar y recordiad hwn: bbc.co.uk/sounds/play/... )